Am ryfedd drugaredd
Creawdwr y byd
Cyduned plant Adda
i foli yn nghyd;
Mae pawb yn ei ddyled,
bob boreu a nawn;
Yr henaf a'r ie'ngaf
sy'n derbyn o'i ddawn.
Trugaredd yw'r fammaeth
ofalus a fu,
Pan oeddym fabanod,
yn sefyll o'n tu,
Hi'n cadwodd rhag angeu
o'n mebyd hyd 'nawr,
Er bod ein peryglon
a'n beiau'n dra mawr.
Trwy oriau'r tywyllwch
a basiodd o'm ho's,
Y teulu fel finnau
yn cysgu trwy'r nos,
Trugaredd a'm cadwodd
yn well nâ wnau llu
O filwyr dan arfau
o amgylch fy nhŷ.
Mi deithiais ffordd anial
wrth geisio gwlad well,
Gan gwrdd â gelynion
yn agos a phell;
Ond ni bum yn unlle,
nac obry na fry,
Na byddai trugaredd
yn d'od gyda mi.
Mi gefais gyfellion
amrywiol îs ne',
Ychydig sy'n ddigon
roi llawer o'u lle;
Er maint wne's yn erbyn
trugaredd fy Nuw,
Mae hon heb dramgwyddo,
hyd yma 'rwy'n fyw.
O Arglwydd, rho i mi'th
drugaredd yn Nghrist,
A gadwo'n dragwywdd
fy enaid sydd drist;
Cyflawnder y cymmod,
teilyngdod y groes,
A'm gwnelo'n orchfygwr
trwy gydol fy oes.
Casgliad Joseph Harris 1845
Tonau [11.11.11.11]: gwelir: O Arglwydd rho imi'th drugaredd yn Nghrist |
For the wonderful mercy
of the Creator of the world
Let the children of Adam unite
to praise together;
Each has his duty,
every morning and afternoon;
The oldest and the youngest
who are receiving from his gift.
Mercy was the caring
motherhood that was,
When we were babies,
standing on our side,
It kept us from death
from our childhood until now,
Despite our perils
and our faults so great.
Through the hours of darkness
which passed from our age,
The family like I
sleeping through the night,
Mercy kept me
better than would a host
Of soldiers under arms
around my house.
I travelled a desert road
seeking a better land,
Meeting with enemies
near and far;
But I was never anywhere,
either below or above,
That mercy was not
coming with me.
I had various
friends under heaven,
Few are sufficient
to put many from their place;
Mi gefais gyfeillion
Despite how much I did against
the mercy of my God,
This is without contradiction,
thus far I am alive.
O Lord, give to me thy
mercy in Christ,
And keep eternally
my soul which is sad;
The righteousness of the reconciliation,
the worthiness of the cross,
Shall make me an overcomer
through the whole of my age.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|